Y Grwp Trawsbleidiol ar Rasio Ceffylau – dydd Mawrth 22 Tachwedd 2022 – 12-1pm

Lleoliad: Yr Ystafell Fideogynadledda, Tŷ Hywel

Yn bresennol

Aelodau: Llyr Gruffydd AS (Plaid Cyrmu - Cadeirydd), James Evans AS (Ceidwadwyr), Peter Fox (Ceidwadwyr), Samuel Kurtz AS (Ceidwadwyr), Jack Sargeant AS (Llafur)

Staff y Senedd  Roedd aelodau o staff seneddol Samuel Kurtz AS a Mike Hedges AS (Llafur) yn bresennol

Allanol: Jack Barton a Zoe Elliott (Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain)

Ymddiheuriadau: Alun Davies AS (Llafur), Sam Rowlands AS (Ceidwadwyr), Joel James AS (Ceidwadwyr)

Cyfarfod cyffredinol blynyddol

Cafodd Llyr Griffiths AS ei ailethol yn gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol. Roedd yr holl aelodau a oedd yn bresennol yn gefnogol i hyn.

Cafodd Jack Barton, ar ran Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain, ei ailethol i barhau i ddarparu Ysgrifenyddiaeth y grŵp, gyda chefnogaeth yr holl aelodau oedd yn bresennol. Diolchodd Llyr i Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain am yr holl gefnogaeth a gafodd y grŵp hyd yma.

Cyflwyniad gan Careers in Racing ar y cyfleoedd gwaith sydd i’w cael yn y byd rasio ceffylau ym Mhrydain

Yn y rhan hon o’r cyfarfod, rhoddodd Zoe Elliott (Pennaeth Gyrfaoedd a Marchnata yn y BHA) gyflwyniad i’r Grŵp yn amlinellu gwaith Careers in Racing, sef asiantaeth recriwtio fewnol yr Awdurdod, yn ogystal â rhai o’r gyrfaoedd gwahanol, a’r cyrsiau a’r hyfforddiant sydd ar gael yn y diwydiant rasio.

Sesiwn holi ac ateb

Gofynnodd Samuel Kurtz AS a yw cysylltiadau teuluol â'r diwydiant rasio yn allweddol i’r rhai sydd am weithio yn y diwydiant.  Atebodd Zoe fod cysylltiadau’n aml yn ddefnyddiol ond bod llwybrau clir i'r diwydiant ar gyfer y rhai nad yw’r cysylltiadau  hynny ganddynt a dywedodd fod pobl sy’n awyddus i newid gyrfa yn aml yn dewis gweithio ym myd rasio. 

Gofynnodd Sam hefyd ble roedd y prinder mwyaf o ran y gweithlu rasio. Atebodd Zoe mai, yn draddodiadol, cael staff i weithio yn y stablau oedd y broblem fwyaf, yn enwedig marchogion ymarfer, gan fod angen sgiliau trin ceffylau i wneud y gwaith hwn, a gweithwyr rhyngwladol oedd wedi llenwi’r swyddi hyn yn y gorffennol. Soniodd Zoe hefyd am y problemau a oedd wedi codi ar ôl Covid o ran dod o hyd i staff lletygarwch a staff i ofalu am y tir.

Holodd James Evans AS am y berthynas rhwng Careers in Racing ac ysgolion yng Nghymru a gofynnodd a oeddent yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i ysgolion i siarad â myfyrwyr. Rhoddodd Zoe rai enghreifftiau lle’r oedd cyswllt lleol wedi gweithio’n dda (e.e. Coleg Pen-y-bont ar Ogwr) ond dywedodd mai dim ond tîm bach sydd ganddynt ac roedd hynny’n cyfyngu ar nifer y digwyddiadau y gallant eu trefnu, er y gall y rhaglen Career Maker gwirfoddol helpu yn y cyswllt hwnnw. Awgrymodd James y gallai’r grŵp ysgrifennu at Jeremy Miles ynghylch cyfleoedd cyflogaeth yn y sector rasio ceffylau ar gyfer cylchlythyr Scoop y bydd Llywodraeth Cymru yn ei anfon i ysgolion a cholegau.

Diolchodd Llyr i Zoe am ei chyflwyniad a gofynnodd iddi a oedd wedi cysylltu â Choleg Cambria yn Llaneurgain, a oedd yn ei etholaeth, sy'n tueddu i gynnig cyrsiau galwedigaethol yn ymwneud â’r tir, a chadarnhaodd Zoe nad oedd wedi gwneud hynny. Yna gofynnodd a oedd yn credu bod lle i gynnig rhagor o gyrsiau Astudiaethau Ceffylau yng ngholegau Cymru, tebyg i’r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban gyda chymorth Academi Rasio’r Alban. Bydd Zoe yn rhoi rhagor o wybodaeth am fodel yr Alban fel y gall y Grŵp asesu a fyddai’n ymarferol yng Nghymru. Nodwyd nad yw colegau diwydiannau'r tir yng Nghymru bob amser yn cydweithio'n dda.

Yn olaf, dywedodd Peter Fox AS fod ei fab yn arfer gweithio fel rhan o’r tîm sy’n gofalu am y tir yng Nghas-gwent a'i fod wedi cael profiadau pwysig a oedd wedi bod yn fuddiol iddo mewn swyddi dilynol.  Cynigiodd anfon gwybodaeth at Zoe am Goleg Gwent yn ei etholaeth sydd â Chanolfan Geffylau lle gall myfyrwyr ddysgu sgiliau gofalu am geffylau a thrin ceffylau. Gofynnodd i sleidiau’r cyflwyniad gael eu rhannu â’r grŵp.

Y diweddaraf gan y BHA

Rhoddodd Jack Barton y wybodaeth ddiweddaraf am y pynciau a ganlyn: 

-          Trefniadau llywodraethu British Racing

-          Defnyddio’r chwip ym myd rasio ym Mhrydain

-          Ymgynghoriad ynghylch Ardrethi Busnes Cymru

-          Gwybodaeth ysgrifenedig gan Gaeau Ras Cymru sydd i'w gweld ar waelod yr e-bost hwn

-          Yn dilyn trafodaethau ag ARC, cadarnhaodd Jack fod nifer o leoedd ar gael i Aelodau’r Grŵp fynd i’r Coral Welsh Grand National eleni yng Nghas-gwent ddydd Mawrth 27 Rhagfyr. Cytunwyd y byddai nodyn yn cael ei anfon ar ôl y cyfarfod i weld faint o diddordeb oedd gan yr Aelodau.

 

Pwyntiau trafod eraill

Holodd Peter am gyflwr Dai Walters. Dywedodd Jack mai'r wybodaeth ddiweddaraf a gafodd am ei gyflwr oedd ei fod yn dal yn yr Uned Gofal Dwys ond byddai’n holi eto ar ran y Grŵp. Awgrymodd Peter y gallai fod yn werth ceisio trefnu i’r Grŵp anfon cerdyn ‘Brysia wella’ ato. Dywedodd Jack y byddai'n ceisio dod o hyd i gyswllt ar gyfer Dai fel y gellir trefnu hyn.

Beth fydd y BHA yn ei wneud ar ôl y ddadl yr wythnos diwethaf? Roedd yr holl aelodau a oedd yn bresennol yn teimlo bod y ddadl wedi mynd yn dda o ystyried ymateb cadarnhaol y Gweinidog ac roeddent yn teimlo bod y ddadl wedi bod yn ddefnydd da o amser seneddol.  Soniodd Sam y dylem barhau i roi gwybod i aelodau’r grŵp am unrhyw lwyddiannau ymhlith aelodau o Gymuned Rasio Cymru er mwyn medru defnyddio datganiadau 90 eiliad i ddathlu eu llwyddiant.

Cafwyd trafodaeth fer ar Gynaliadwyedd mewn Rasio ac a oes lle i gaeau rasio helpu gyda thargedau’n ymwneud â defnyddio ynni adnewyddadwy a gwella bioamrywiaeth. Jack i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd eisoes yn y cyswllt hwn ar draciau rasio Cymru.

Cloi

Diolchodd Llyr Gruffydd AS i bawb am eu presenoldeb yn y cyfarfodydd yn 2022 a gofynnodd i Jack a oedd unrhyw gynlluniau ar gyfer cyfarfodydd yn 2023.  Dywedodd Jack ei fod wedi cwrdd â pherchennog Bridfa Ceffylau Yorton ym Mhowys yng Ngwobrau Rasio Cymru yn gynharach yn y mis a bod hynny'n opsiwn posibl ar gyfer y flwyddyn nesaf. Byddai’n well trefnu dyddiad ar gyfer hyn ymhell ymlaen llaw o ystyried y pellter teithio dan sylw.

 

Hynt Bangor Is-coed yn 2022

Yn bresennol : O’i gymharu â 2019 – gwelwyd cynnydd o 2.5% yn y 10 cyfarfod cyntaf yn 2022 hyd at fis Tachwedd, sy’n rhyfeddol o dan yr amgylchiadau.  Trac rasio bach sydd ym Mangor Is-coed ond mae rasys yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Mae gennym gefnogaeth leol gref iawn ac mae canran helaeth o’r rhai sy’n mynd i’r rasys yn dod i wylio rasys neidio.

Gwobrau ariannol: Penderfynwyd cynyddu’r Gwobrau Ariannol yn sylweddol i berchenogion, hyfforddwyr a jocis yn 2022 o fis Mai ac rydym wedi’u cynyddu eto ar gyfer 2023.  Y nod yw denu nifer dda i gystadlu a, chan hynny, cryfhau rasys cystadleuol i helpu i gynyddu’r incwm a gawn drwy gyllid a hefyd i gynnig y digwyddiadau gorau bosibl i’r rhai sy’n dod i’r rasys.  Teimlwn fod angen ceisio cynnal y cydbwysedd o fewn y diwydiant. 

Y cynnydd mewn prisiau ynni: Mae’r rhain yn mynd i dreblu yn 2023 yng Nghae Cae Ras Bangor Is-coed a’r amcangyfrif yw cynnydd o £100,000.  Hefyd, mae’r cynnydd yng nghostau bwyd a thanwydd ac ati yn rhywbeth rydym am geisio’i gadw dan reolaeth heb orfod ei drosglwyddo i'r rhai sy’n dod i’r rasys os oes modd!

Hynt Cas-gwent a Ffos Las yn 2022

-          Mae uchafbwynt y flwyddyn yng Nghas-gwent eto i ddod – y Coral Welsh Grand National ar 27 Rhagfyr fydd y ras gyntaf gyda gwylwyr ers dwy flynedd (fel y gwyddom i gyd). Disgwyl torf o dros 10,000. Erbyn eleni, bydd Coral wedi noddi’r ras am 50 mlynedd, un o’r cyfnodau noddi hiraf yn y byd chwaraeon yn y DU. Bydd 58 yn rasio - pump o stablau hyfforddi Paul Nicholls a bydd cynrychiolaeth o bob un o’r prif stablau hyfforddi eraill  – Willie Mullins, Gordon Elliott, David Pipe, Joe Tizzard, Dan Skelton, Harry Fry, Alan King, Venetia Williams. Bydd y ras yn fyw ar ITV.

-          Daeth torf o 7500 i’r ras neidio agoriadol yng Nghas-gwent - roedd hynny’n addawol iawn. Yn dilyn y tywydd eithriadol o sych a gafwyd yn yr haf, roedd yn gryn her paratoi’r trac rasio a bu’r staff yn dyfrio 24 awr y dydd am dair wythnos cyn y cyfarfod i sicrhau tir neidio diogel.

-          Mae lletygarwch a phresenoldeb yn y rasys yn ystod y flwyddyn wedi bod yn dda o ystyried ein bod yn wynebu argyfwng 'costau byw'.  Mae pob tocyn lletygarwch wedi’u gwerthu ar gyfer y rasys ym mis Rhagfyr.

-          O ran y rasys gwastad, Cas-gwent (ynghyd â Doncaster) oedd y lleoliad cyntaf i gynnal rasys ar ôl i’r Frenhines farw – a hynny ddydd Sul 11 Medi. Trefnwyd teyrnged arbennig iddi cyn y rasys.

-          Daeth 8000 i Ffos Las i wylio’r Kaiser Chiefs yn chwarae’n fwy ar ôl y rasys ym mis Mai. Daeth torf o 2500 i’r Welsh Champion Hurdle ac roedd yn braf gweld enillydd a hyfforddwyd yn Iwerddon, sef Effernock Fizz.